Therapi Cwpanu Tsieineaidd
Beth yw Therapi Cwpanu?
Mae Therapi Cwpanu yn ffurf hynafol o therapi Tsieineaidd, lle mae'r therapydd yn gosod cwpanau arbennig ar eich croen am ychydig funudau, sy'n creu sugno.
Cyn gosod y cwpan ar y croen, caiff y cwpan ei gynhesu y tu mewn gyda fflam fach. Caiff y cwpan ei roi ar y croen ac wrth i'r aer y tu mewn i'r cwpan oeri mae'n creu gwactod, gan dynnu'r croen i mewn i geg y cwpan. Mae hyn yn cynyddu llif y gwaed ac yn ymlacio'r ffasgia / meinweoedd cysylltiol.
Beth yw'r manteision?
Gellir defnyddio cwpanu i annog llif y gwaed, trin problemau pwysedd gwaed, tawelu'r system nerfol, lleddfu poen cefn a gwddf, cyhyrau anystwyth, pryder a blinder, ymhlith llawer o fanteision eraill.
Efallai na fydd y driniaeth hon yn addas ar gyfer cleifion ag ecsema neu soriasis.
