Cymhwysodd Chris o Ysgol Osteopathi Prydain yn 2014 gyda gradd Meistr mewn Osteopathi. Ers gweithio gyda LEAF Health mae wedi datblygu technegau swyddogaethol a chranial i ategu ei ddealltwriaeth fecanyddol fanwl o’r corff dynol. Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn trin effeithiau straen ar y corff ac ystum, boed hynny’n ganlyniad pwysau gwaith, profedigaeth neu drawma.
Mae Chris yn byw ym Mangor ac mae’n mwynhau heicio, pobi a cherddoriaeth fyw a gellir dod o hyd iddo hefyd yn gweithio ym meysydd iachau nifer o wyliau cerddoriaeth yn yr haf. Mae Chris ar gael i archebu ar-lein ar gyfer clinigau Llandudno a Phorthaethwy.
Therapïau

